Meic Stephens
Canwr, bardd, beirniad llenyddol ac ymgyrchydd gwleidyddol enwog yw Meic Stephens (hefyd Stevens). Fe'i ganed yn Solfa yn sir Benfro. Astudiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth lle dysgodd ganu'r gitâr a lle magodd ddiddordeb oes mewn llenyddiaeth Gymraeg ac Eingl-Gymreig, ac aeth oddi yno i Brifysgol Roazhon yn Llydaw, lle dysgodd Lydaweg a Ffrangeg a lle'r ysgrifennodd rai o'i ganeuon enwocaf megis Rue St Michel.
Saesneg oedd ei famiaith, ond pan ddychwelodd i Gymru aeth ati i ddysgu'r Gymraeg yn frwd. Bu'n aelod gweithgar iawn o Blaid Cymru, rhywbeth a ysbrydolwyd gan yr hyn a welai'n digwydd yn ei Solfa enedigol, yr estron Sais yn lladd y gymuned. Bu'n ddiwyd iawn y tu allan i wleidyddiaeth hefyd yn ystod y chwedegau, y saithdegau a'r wythdegau, yn canu'n gyson ledled Cymru, ar ei ben ei hun ac yn y grŵp metel trwm Bara Menyn. Yn ogystal, bu'n bennaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, ac ysgrifennodd sawl cyfrol lenyddol gan gynnwys y campwaith Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, a sefydlu'r cylchgrawn Pottery Wales.
Roedd yn hen gyfeillion â Heather Jones, a oedd yn canu gydag ef yn Bara Menyn yn y chwedegau, ond yn 2006, bu peth anghydweld gan mai ef bellach oedd perchennog hawlfraint Colli Iaith, un o'r caneuon y mae Heather yn eu canu yn gyson yn ei chyngherddau. Roedd Meic wedi etifeddu'r hawliau gan y cyfansoddwr, ei hen gyfaill o'i ieuenctid gynt yn Solfa, Harri Webb. Yn ôl y cylchgrawn dibynadwy Golwg, roedd Meic am godi £5,000 ar Heather bob tro y byddai'n canu'r cân, pris afresymol yn ôl Heather. Mae'r ddau wedi eu gweld yn canu gyda'i gilydd ers hynny felly tybir bod y ddadl honno wedi hen chwythu ei phlwc erbyn hyn.
Un o'r cyngherddau diweddar mwyaf cofiadwy oedd y cyngerdd ym mhafiliwn yr Eisteddfod i ddathlu ei benblwydd yn 60 oed, lle'r oedd y pafiliwn dan ei sang a phan dalwyd £100,000 iddo yn ôl y sôn. Mae'n briod a'r hanesydd Catrin Stevens ac mae ganddo lawer o blant, gan gynnwys y cyflwynydd radio poblogaidd Huw Stephens.