Celwyddoniadur:Amdanom

Oddi ar Celwyddoniadur
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gwyddoniadur - neu encyclopedia - yw'r Celwyddoniadur, fel ein cyfaill annwyl y wicipedia, ond yn llai o stress. Mae hwn yn gyfle i ddianc rhag obsesiwn wicipedia gyda ffeithiau, cywirdeb a thegwch. Yn y Celwyddoniadur mae pethau eraill pwysicach na'r rhinweddau a nodwyd; yn wir nid yw cywirdeb ffeithiol yn rhywbeth yr ydym yn anelu tuag ato o gwbl. I'r gwrthwyneb, ein nod yw darparu cymaint o wybodaeth anghywir, camarweiniol a gwallus ag sy'n bosibl. Dyddiau cynnar yw hi, ond gyda dyfalbarhad a'ch cymorth chi, y gobaith yw y gallwn greu adnodd cwbl ddibwrpas ar gyfer y Gymru fodern.